Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi cymeradwyo cynnig sy’n hallt ei feirniadaeth o’r camdriniaeth mae Mwslimiaid Rohingya a lleiafrifoedd eraill yn ei ddioddef yn Myanmar.
Pleidleisiodd y corff byd-eang 134-9 gyda 28 o ymataliadau o blaid cynnig sydd hefyd yn galw ar lywodraeth Myanmar i weithredu ar frys i rwystro casineb yn erbyn y Rohingya a lleiafrifoedd eraill.
Mae Myanmar – sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Burma – yn wlad lle mai Bwdhyddion yw mwyafrif y boblogaeth, a lle caiff y Rohingya eu hystyried fel Bengaliaid o Bangladesh, er bod eu teuluoedd wedi byw yn y wlad ers cenedlaethau.
Yn dilyn ymosodiadau gan filwyr y wlad arnyn nhw ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth llawer ffoi i Bangladesh.
Mae bron bawb ohonyn nhw wedi bod heb ddinasyddiaeth ers 1982, ac yn cael eu hamddifadu o ryddid i deithio a hawliau sylfaenol eraill.