Mae’r ymgyrchydd hinsawdd Greta Thunberg wedi cyrraedd mewn cwch hwylio i borthladd Lisbon ar ôl mordaith dair wythnos ar draws Môr Iwerydd o’r Unol Daleithiau.

Cyrhaeddodd y ferch o Sweden borthladd prifddinas Portiwgal heddiw, cyn mynd i Sbaen i gynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Madrid.

Yn Lisbon, fe wnaeth pwysigion lleol ac ymgyrchwyr eraill gwrdd â hi.

Aeth Greta Thunberg ar daith ynni adnewyddadwy o’r UD, gan ymuno â theulu o Awstralia ar eu catamarán 48 troedfedd.

Roedd hi eisiau math o gludiant carbon isel i gyrraedd y cyfarfod hinsawdd, a gafodd ei newid ar fyr rybudd i Sbaen o Chile oherwydd aflonyddwch yno.

Mae’r cwch hwylio, o’r enw La Vagabonde, yn gadael ychydig neu ddim ôl troed carbon pan fydd ei hwyliau i fyny, gan ddefnyddio paneli solar a generaduron hydro fel ffynonellau trydan.