Mae’r heddlu’n ceisio tawelu protestwyr sydd wedi ymgynnull flwyddyn union ers y brotest festiau melyn gyntaf yn Paris.

Fe fu’r protestwyr yn tynnu sylw drwy gydol y flwyddyn at bolisïau economaidd llywodraeth yr Arlywydd Emmanuel Macron sydd, medden nhw, yn ffafrio pobol gyfoethog.

Mae 24 o bobol wedi’u harestio’n dilyn y brotest ddiweddaraf, wrth i’r heddlu orfod defnyddio nwy ddagrau.

Fe fu’r protestwyr yn ceisio codi blocâd ar y ffyrdd i mewn i’r brifddinas.

Ond mae adroddiadau bod yr heddlu’n ymateb yn llawdrwm i ychydig iawn o drais.

Mae protestwyr hefyd wedi bod yn ymgynnull yn ninas Marseille.

Mae Emmanuel Macron, ar hyd y flwyddyn, wedi ymateb ac ildio i rai o ofynion y protestwyr.