Y Senedd yn Athen
Mae rhannau helaeth o wlad Groeg wedi dod i stop heddiw wrth i brotestiadau yn erbyn rhagor o doriadau darfu ar drafnidiaeth gyhoeddus a gorfodi cau swyddfeydd, siopau ac ysgolion.
Mae pob sector, o ddeintyddion i ysbytai a chyfreithwyr i berchnogion siopau, casglwyr treth, athrawon a gweithwyr porthladdoedd ymhlith y miloedd sydd wedi mynd ar streic cyn pleidlais Seneddol ar ragor o doriadau yn y wlad yfory.
Dyw awyrennau’r wlad heb adael y meysydd awyr am ran fwya’r dydd, er bod gweithwyr y meysydd awyr bellach wedi torri eu streic o 48 awr i 12 awr, ac mae llongau wedi bod yng nghlwm wrth y porthladd drwy’r dydd.
Tra bod mwyafrif gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus Athen wedi aros adref heddiw, penderfynwyd y byddai’n rhaid cadw bysiau a metro’r brifddinas i redeg.
Ond wrth i’r gorymdeithio gychwyn, fe anfonwyd 3,000 o blismyn i ganol Athen er mwyn cau dau o’r gorsafoedd metro ger y Senedd. Mae’r heddlu wedi amcangyfrif bod o leia’ 70,000 o bobol yn y dyrfa.
Mae protestwyr wedi bod yn cwrdd ar y sgwâr o flaen y Senedd yn canu sloganau yn erbyn y llywodraeth ac yn erbyn credydwyr rhyngwladol Groeg, sydd wedi gwthio am y toriadau gwariant diweddaraf a chynnydd mewn trethi.
Ar hyd strydoedd Athen, mae rhesi o siopau wedi cau ar gyfer y streic. Mae sawl perchennog siop wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn bygythiad y byddai eu siopau yn cael eu chwalu petae nhw’n agor yn ystod diwrnod cyntaf y streic.
Daw’r bleidlais ar y mesurau diweddaraf ar ôl mwy na blwyddyn a hanner o doriadau a chynnydd mewn trethi, a 30,000 o weithwyr sifil yn cael eu diswyddo.
Yn y cyfamser, mae gwledydd Ewropeaidd yn ceisio dod o hyd i ffordd i ddatrys dyled gynyddol y cyfandir, cyn i gynrychiolwyr ar draws Ewrop gwrdd mewn cynhadledd ym Mrwsel dros y penwythnos.