Mae degau o filoedd o Islamyddion yn protestio yn erbyn sefyllfa economaidd y wlad, gyda rhai yn galw am ymddiswyddiad y prif weinidog Imran Khan.
Yn eu plith mae plaid Jamiat Ulema-e-Islam, wrth i’r arweinydd Maulana Fazlur Rehman roi tan nos yfory (nos Sul, Tachwedd 3) iddo gamu o’r neilltu neu fe allai gynnal gorymdaith fawr yn ardal y senedd, cartref y prif weinidog, swyddfeydd y llywodraeth a phencadlysoedd llysgenhadon y wlad.
Ond mae’r prif weinidog yn dweud na fydd e’n ildio i’r pwysau.
Mae’r lluoedd arfog yn paratoi i ymateb i’r protestiadau, wrth i’r arweinwyr ddweud eu bod nhw’n barod i arestio Imran Khan.
Asgwrn y gynnen
Mae Maulana Fazlur Rehman yn cyhuddo’r lluoedd arfog o ymyrryd yn etholiadau seneddol y wlad y llynedd, pan ddaeth Imran Khan i rym.
Dim ond 16 o 342 o seddi enillodd plaid Tehreek-e-Insaf, plaid y clerigwr.
Mae’n cyhuddo “sefydliadau” a “rheolwyr anghyfreithlon” o arwain Pacistan erbyn hyn.