Mae 19 o bobol wedi cael eu harestio yn yr Eidal ar amheuaeth o fod yn aelodau o gylch heroin.

Mae lle i gredu bod y rhan fwyaf yn dod o Tanzania.

Mae mwy na 150 o bobol dan amheuaeth o fod â rhan yn y cylch yn Affrica, Asia ac Ewrop.

Fe fu ymchwiliad ar y gweill yn Perugia ers 2012, ac mae lle i gredu mai dyn o Tanzania sy’n arwain y cylch.

Mae 144 o bobol wedi cael eu harestio erbyn hyn.

£29.6m yw gwerth yr heroin, a £3.6m yw gwerth y cocên.