Fe fydd Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn cael ei uchelgyhuddo ar ôl i Nancy Pelosi, llefarydd y Tŷ, ildio i’r pwysau gan y Democratiaid.

Fe fydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar honiadau ei fod e wedi camddefnyddio’i bwerau fel arlywydd i geisio cymorth llywodraeth dramor i danseilio’i wrthwynebydd Joe Biden ac i sicrhau ei fod ef ei hun yn cael ei ail-ethol.

Dywed Nancy Pelosi y byddai’r fath ymddygiad, pe bai’n cael ei brofi, yn “bradychu llw ei swydd”, gan ychwanegu nad oes “neb uwchlaw’r gyfraith”.

Daw’r uchelgyhuddo ar drothwy’r etholiadau yn 2020, ac mae Donald Trump wedi bod yn procio’r Democratiaid i gymryd y camau yn ei erbyn, gan gredu y byddai gwrthbrofi’r honiadau’n cryfhau ei obeithion o ddal ei afael ar yr arlywyddiaeth.

Gwthio am uchelgyhuddo

Ers rhai misoedd, fe fu Nancy Pelosi yn galw am bwyllo cyn cymryd unrhyw gamau yn erbyn yr arlywydd, ac i gasglu’r holl dystiolaeth a ffeithiau cyn ceisio ei uchelgyhuddo.

Ond daeth criw o Ddemocratiaid o daleithiau lle mae nifer o seddi ymylol ynghyd i sichrau bod y camau’n cael eu cymryd.

Mae’r camau’n peryglu eu gobeithion eu hunain o gael eu hail-ethol, ond maen nhw’n dweud nad oedd modd iddyn barhau i aros yn segur.

Yr honiadau

Ymddygiad Donald Trump wrth ymdrin â’r Wcráin sydd wrth wraidd y ffrae.

Mae’n cael ei gyhuddo o ofyn am gymorth Volodymyr Zelenskiy, arlywydd y wlad, i gynnal ymchwiliad i Joe Biden a’i fab Hunter.

Yn y dyddiau cyn hynny, roedd e wedi mynnu rhewi 400,000,000 o ddoleri oedd i fod i gael ei roi’n gymorth milwrol i’r wlad.

Mae Donald Trump yn gwadu’r cyhuddiad, ond mae’n cyfaddef iddo atal yr arian.

Fe fydd cynnwys yr alwad ffôn yn cael ei gyhoeddi heddiw.