Mae protest yn cael ei chynnal yn Cairo yn galw ar arlywydd y wlad, Abdel-Fattah el-Sissi i gamu o’r neilltu.
Fe ddaeth i rym yn 2013 ar ôl i’r fyddin symud ei ragflaenydd Mohamed Morsi o’i swydd.
Ond yn y cyfnod ers hynny, mae’r arlywydd presennol wedi bod yn tawelu ei wrthwynebwyr ac yn carcharu miloedd o bobol.
Mae’r protestwyr yn ymgynnull yn Sgwâr Tahrir, lleoliad y gwrthdystiad a arweiniodd at ymadawiad Hosni Mubarak o’i swydd yn 2011.
Mae’r dyn busnes Muhammad Ali yn cyhuddo’r fyddin a’r llywodraeth o lygredd, ond dydy e ddim wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi’r honiadau.
Mae’n dweud bod arian brwnt wedi cael ei ddefnyddio i godi gwestai, palas yr arlywydd a beddrod ei fam a fu farw yn 2014.
Mae’r arlywydd yn gwadu’r holl honiadau, gan gyhuddo Muhammad Ali o geisio gwanhau’r wlad.