Mae meddyg sydd wedi helpu i fynd i’r afael â’r clefyd Ebola yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi dweud sut mae brechlyn newydd yn helpu yn y frwydr.

Fe dreuliodd Dr Catherine Houlihan, o Aberdeen, bedair wythnos yn y wlad, lle mae mwy na 2,000 o bobol wedi marw ers i’r achosion cyntaf gael eu nodi.

Mae Dr Houlihan yn credu bod brechlyn newydd, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth gan Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) Llywodraeth y DU, wedi helpu i gwtogi ar ledaeniad y firws yn ddramatig, gyda mwy na 200,000 o bobl bellach wedi’u brechu.

Mae’r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod y brechlyn a ariennir gan gymorth yng ngwledydd Prydain wedi profi 97% yn effeithiol. Fe laddodd Ebola fwy na 11,000 o bobol rhwng 2013 a 2016.

“Rwy’n credu bod y brechlyn wedi newid llwybr yr achos hwn,” meddai Catherine Houlihan. “Gallem fod wedi cael toll marwolaeth debyg i Orllewin Affrica pe na byddem wedi’i chael.

“Mae’r data’n dangos ei fod yn 97% yn effeithiol. Mae gweithwyr gofal iechyd yn un o’r grwpiau risg uchaf ar gyfer dal Ebola ac mae’r amddiffyniad ychwanegol hwn yn eu galluogi i gyflawni eu rolau yn llawer mwy effeithiol.”