Mae sefyllfa llong achub ffoaduriaid ger ynys Lampedusa yn yr Eidal “allan o reolaeth” wrth I 15 mwy o bobol neidio oddi arno mewn i’r môr.
Mae’r ffoaduriaid wedi bod ar y long, sydd a’r enw Open Arms, am 19 diwrnod wrth i’r Eidal barhau i wrthod agor ei phorthladd iddi.
Fe neidiodd un person oddi ar y llong yn gynnar heddiw (dydd Mawrth, Awst 20) cyn i 14 arall ddilyn gan anelu am ynys Lampedusa sydd wedi’i leoli ddim ymhell o’r llong, sydd yn dal wedi’i hangori.
Yn ôl gohebydd i ddarlledwr Sbaen, TVE, fe wrthododd y person cyntaf i ddychwelyd i’r llong gan annog eraill i’w ddilyn.
Dywed fod y ffoaduriaid yn “anobeithiol ac yn mynd yn wallgof” ar ôl 19 diwrnod yn sownd ar y llong. Mae’r bad achub o’r Eidal wedi achub pob un o’r 15 neidiwr ac wedi’u cludo i Lampedusa, gan adael 83 o ffoaduriaid arni.
Yn flaenorol fe rybuddiodd capten yr Open Arms awdurdodau’r Eidal na all y criw o 17 reoli’r sefyllfa ar y llong wrth i ffoaduriaid rhwystredig droi at ymladd.
Dywedodd llywodraeth Sbaen yn ddiweddarach ei bod yn anfon llong lyngesol i’r môr i hebrwng yr Open Arms i Sbaen.