Mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – yn hawlio cyfrifoldeb am ffrwydrad yn ystod priodas yn Kabul yn Affganistan neithiwr (nos Sadwrn, Awst 17), pan gafodd 63 o bobol eu lladd.

Yn ôl datganiad ganddyn nhw ar wefan Islamaidd, un o Bacistan oedd yr hunan-fomiwr oedd wedi ymosod ar bobol Shiaidd.

Cafodd bom car ei ffrwydro’n fuan wedyn.

Cafodd bron i 200 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Mae’r Taliban wedi beirniadu’r ymosodiad, gan wadu mai nhw oedd yn gyfrifol.