Mae Imran Khan, prif weinidog Pacistan, yn dweud bod y wlad yn cefnogi’r trigolion hynny yn Kashmir nad ydyn nhw am fyw o dan reolaeth India.
Mae e’n feirniadol o benderfyniad India i israddio statws y rhanbarth, wrth i Bacistan gynnal dathliadau i nodi pen-blwydd ei hannibyniaeth yn 1947.
Mae disgwyl iddo draddodi araith yn lladd ar India am dorri deddfau hawliau dynol.
Ar ôl i India a Phacistan wahanu oddi wrth ei gilydd, blwyddyn yn unig gymerodd hi i’r ddwy wlad wrthdaro tros ranbarth Kashmir.
Fe fu brwydro cyson ers i India israddio statws y rhanbarth, ac mae Pacistan yn galw am gyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Maen nhw’n cyhuddo India o fygwth heddwch rhyngwladol.
Fe fydd India yn dathlu ei hannibyniaeth yfory (dydd Iau, Awst 15), a’r dathliadau hynny’n cynnwys Kashmir.