Mae Hong Kong yn wynebu’r argyfwng mwyaf yn ei hanes ers 1997, pan ddaeth rheolaeth Llywodraeth Prydain dros y diriogaeth i ben, yn ôl aelod blaenllaw o Lywodraeth Tsieina.

Dywed Zhang Xiaoming, pennaeth swyddfa’r cabinet, fod y llywodraeth yn Beijing yn “hynod bryderus” o’r sefyllfa yn ninas Hong Kong, sydd wedi cael ei hysgwyd gan gyfres o brotestiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Roedd y gwleidydd o Tsieina yn annerch cynulleidfa o drigolion y ddinas mewn seminar yn ninas Shenzhen.

Cafodd Hong Kong ei dychwelyd i feddiant Tsieina yn 1997, ac mae cytundeb y trosglwyddiad yn golygu bod gan drigolion y diriogaeth fwy o hawliau na’u cyd-wladwyr ar y tir mawr.

Ond yn ddiweddar, mae gan rai bryderon bod Beijing yn ceisio atal yr hawliau hyn, yn sgil bwriad gan lywodraeth Hong Kong i gyflwyno deddf estraddodi newydd.