Mae’r heddlu yn Hong Kong wedi saethu nwy dagrau at brotestwyr oedd wedi herio rhubuddion i beidio gorymdeithio ger gorsaf drenau ble ymosododd giang ar wrthdystwyr chwe diwrnod yn ôl.

Heddiw saethodd swyddogion mewn gêr terfysg ar wrthdystwyr yn Yuen Long a ddaliodd eu tir er gwaethaf apêl gan yr heddlu i ddod a’r orymdaith i ben.

Ond roedd y protestwyr eisiau dangos eu bod yn herio’r ymosodwyr a anafodd ddwsinau o bobol ddydd Sul diwethaf, gan gynnwys rhai oedd yn mynd adref ar ddiwedd y brotest o blaid democratiaeth.

Dywedodd yr heddlu fod rhai o’r ymosodwyr yn yr orsaf drenau gyda chysylltiadau a giangiau triad a bod eraill yn bentrefwyr oedd yn byw yn yr ardal.

Heddiw roedd strydoedd Yuen Long yn fôr o ymbarelau wrth i’r orymdaith ddechrau’r prynhawn yma.

Mae’r ymbarelau yn symbol o’r protestiadau yn Hong Kong yn 2014 pan fe’i defnyddiwyd gan brotestwyr i geisio cuddio’u wynebau oddi wrth gamerau’r heddlu a hefyd i’w gwarchod rhag nwy dagrau a chwistrell pupur.

“Mae heddlu Hong Kong police yn gwybod y gyfraith ac yn torri’r gyfraith”, oedd siant y protestwyr wrth iddyn nhw gerdded trwy’r strydoedd.