Mae arlywydd Tiwnisia, Beji Caid Essebsi, wedi marw yn 92 oed mewn ysbyty yn Tunis.
Fe gafodd ei ethol i’w swydd yn 2014 yn sgil y Gwanwyn Arabaidd, ac ef oedd arweinydd cyntaf y wlad i gael ei ethol yn ddemocrataidd.
Roedd yn 88 oed pan ddaeth yn arlywydd, ac roedd yn ei ystyried ei hun fel gwarchodwr y wlad yn erbyn Islamiaeth eithafol ac anhrefn wleidyddol.
Yn y pendraw mi fethodd â dod a ffyniant i’r wlad, ac yn ystod ei gyfnod yn arweinydd profodd Tiwnisia argyfyngau economaidd a llu o ymosodiadau brawychol.
Mae disgwyl i lywydd senedd Tiwnisia gael ei ddyrchafu’n Arlywydd dros dro tan yr etholiadau arlywyddol.