Mae tlysau a swfenirs tenis gwerth £200,000 yn mynd dan y morthwyl er mwyn ceisio setlo dyledion cyn-bencampwr Wimbledon.
Mae’r 82 eitem yn cynnwys cwpan y dynion Wimbledon a enillodd Boris Becker yn 1985, medalau eraill y bencampwriaeth yn SW19, a thystysgrif buddugoliaeth yr Almaenwr ym mhencampwriaeth dyblau’r dynion gyda Michael Stich yng ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992.
Mae oriawr a dderbyniodd yn anrheg gan Novak Djokovic, ynghyd â thlws yr US Open yn 1989 hefyd yn mynd i fod yn rhan o ocsiwn i godi arian.
Fe fydd unrhyw arian sy’n cael ei godi yn mynd yn syth i dalu dyledion Boris Becker, 51, a gafodd ei ddatgan yn fethdalwr ym mis Mehefin 2017.