Mae cwch yn cario 86 o ffoaduriaid o Libya, wedi suddo yn y Môr Canoldir.
Dim ond tri o bobol ar ei fwrdd sydd wedi goroesi, ac mae 82 o bobol yn dal i fod ar goll, yn ôl asiantaeth sy’n gweithio ar ran y Cenhedloedd Unedig.
Fe ddigwyddodd y ddamwain oddi ar arfordir dinas Zarzis yn Tiwnisia, ddiwrnod yn unig wedi i gyrch awyr ar wersyll ffoaduriaid yn Libya ladd beth bynnag 44 o bobol.
Pysgotwyr o Tiwnisia ddaeth ar draws y cwch, cyn llwyddo i achub pedwar o ddynion. Ond mi fethon nhw â dod o hyd i fwy o’r ffoaduriaid.
Mae un o’r pedwar wedi marw, tra bod y tri arall yn dal i dderbyn triniaeth ysbyty.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe lwyddodd cwch arall o Libya. yn cario 65 o bobol, i gyrraedd porthladd Sfax yn Tiwnisia.