Mae capten llong gymorth Almaenaidd wedi cael ei arestio wedi iddi ddocio heb ganiatad ar ynys fechan yn y Môr  Canoldir, ar ôl taro yn erbyn cwch heddlu’r Eidal.

Roedd gweinidog gwrth-fudwyr yr Eidal, Matteo Salvini, wedi gwrthod iddyn nhw lanio yn ynys Lampedusa nes y bydd gwledydd eraill o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno i dderbyn y ffoaduriaid.

Fe gusanodd y ffoaduriaid aelodau’r criw a’r doc wrth iddyn nhw lanio, ar ôl treulio 17 diwrnod ar y môr.

Wedi i bump gwlad gynnig ddydd Gwener i dderbyn y ffoaduriaid, ond heb ganiatad i lanio, fe lywiodd capten llong y Sea-Watch 3, Carola Rackete, tuag at y doc yn Lampedusa cyn iddi wawrio’r bore ma, gan daro cwch llawer llai yn perthyn i lu’r Eidal.

Cafodd ei chymeryd yn syth i’r ddalfa.

Disgrifiodd Mr Salvini ei gweithred fel un “anhygoed” a gorchmynodd i’r llong gael ei atalfaelu “am fynd o amgylch Môr y Canoldir gan dorri rheolau.”

Cafodd gweithred y capten ei chanmol gan Sea-Watch. Dywedodd y gwleidydd Graziano Delrio o’r blaid Ddemocrataidd ei bod yn debyg i yrrwr ambiwlans y Groes Groch “yn mynd trwy olau coch” er mwyn mynd a chleifion i ysbyty.