Roedd merch 17 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych “yn llawn hwyl, doeth ac uchelgeisiol” meddai ei theulu.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y digwyddiad ar yr B5105 rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ddydd Iau.

Cafodd pump arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad yn ardal Efenechtyd rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du am 7.30yh.

Dywedodd teulu Olivia bod eu merch yn “ymfalchïo ym mhopeth roedd hi’n cymryd rhan ynddo ac yn ddiweddar cafodd gydnabyddiaeth am ei chymeriad a’i hymroddiad drwy gael ei phenodi yn ddirprwy brif ferch yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun”.

‘Person prydferth y tu mewn ac allan’

“Byddai hi, heb os, wedi mwynhau a llwyddo yn y rôl,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Roedd Olivia yn garedig, meddylgar ac wedi ei chyffroi gan y syniad o fynd i brifysgol i astudio peirianneg bensaernïol.

“Bu Olivia yn gweithio fel gwarchodydd nofio ac roedd yn bwriadu parhau gyda hyn ar ôl gorffen ei hastudiaethau.

“Roedd hi wrth ei bodd yn y dŵr ar ôl treulio sawl haf yn Nhwrci – gwlad enedigol ei thad – gan nofio yn y môr yno.

“Roedd Olivia yn berson prydferth ar y tu mewn a’r tu allan, ac roedd y byd yn well lle o’i herwydd.”

Dywedodd pennaeth Ysgol Brynhyfryd Geraint Parry fod gan Olivia ddyfodol disglair.

“Roedd Olivia yn gyfaill i’w chyfoedon, roedd yna hoffter mawr ohoni ac roedd hi’n aelod poblogaidd o gymuned yr ysgol,” meddai.

Roedd Olivia yn teithio yn y Ford Fiesta, a bu farw yn safle’r gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y Ford – bachgen 17 oed – a dwy ferch arall 16 ac 17 oed oedd yn teithio yn y car, eu cludo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.

Cafodd gyrrwr y Mercedes, dyn 52 oed, a dynes 76 oed oedd yn y car eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Alun Oldfield o Heddlu Gogledd Cymru bod ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Cafodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub o Ddinbych a Rhuthun eu galw i’r digwyddiad, a bu’r ffordd ar gau am rai oriau.