Mae arweinydd Hong Kong, Carrie Lam, wedi dweud y bydd ei llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’r bwriad o gyflwyno newidiadau i’w chyfreithiau estraddodi.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i gannoedd ar filoedd o bobol orymdeithio drwy ganol Hong Kong dros y penwythnos mewn protest yn erbyn y newidiadau.

Mae’r cynigion arfaethedig yn cynnwys yr hawl i Hong Kong anfon pobol i Tsieina er mwyn wynebu cyhuddiadau.

Mae pobol yn ofni na fyddan nhw’n medru cael yr un tegwch o dan system gyfiawnder Tsieina o gymharu â’r un yn Hong Kong, sydd â’i llywodraeth ddatganoledig ei hun.

Gan wrthod ildio i ddymuniadau’r protestwyr, mae Carrie Lam yn mynnu nad yw hi wedi derbyn gorchmynion gan Lywodraeth Tsieina i weithredu’r newidiadau.

“Dydw i ddim wedi derbyn cyfarwyddyd na mandad o Beijing i gyflwyno’r mesur hwn,” meddai.

“Rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r newidiadau gyda chydwybod glir a gydag ymrwymiad i Hong Kong.”