Mae cyn-brif eeinidog Gwlad Thai wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am ei gysylltiad â chynllun loteri.

Cafodd Thaksin Shinawatra ei ddedfrydu gan gangen o’r Uchel Lys yn y wlad yn dilyn y penderfyniad bod cynllun ariannol a sefydlodd fwy na degawd yn ôl yn mynd yn groes i’r gyfraith.

Cafodd y gwleidydd ei ddisodli o fod yn Brif Weinidog gan fyddin y wlad yn 2006, a dyw e ddim wedi bod yn bresennol yng Ngwlad Thai ers 2008.

Nid dyma’r tro cyntaf i Thaksin Shinawatra gael ei ddedfrydu i gyfnod o garchar.

Ym mis Ebrill eleni, derbyniodd tair blynedd o garchar am orchymyn yr Export-Import Bank i roi benthyciad ariannol i Burma, er mwyn i’r arian hwnnw gael ei dalu i gwmni lloeren oedd yng ngofal y prif weinidog ei hun a’i deulu.