Mae plaid y Democratiaid Cymdeithasol yn Denmarc ar y blaen yn yr etholiad cyffredinol yno, gyda chanlyniadau dros dro yn dangos enillion mawr i’r blaid adain chwith.

Os yw’r duedd yn cael ei chadarnhau yn y canlyniadau terfynol, fe fydd y blaid yn dychwelyd i rym ar ôl pedair blynedd fel y brif wrthblaid.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tua 25.9% o’r bleidlais ar ôl ymgyrch sydd yn gweld ei arweinwyr yn cymryd safiad cadarn yn erbyn mewnfudo.

Yn ôl arweinydd y blaid, Mette Frederiksen, fe fydden nhw’n ceisio llywodraethu fel lleiafrif yn hytrach nag mewn clymblaid. Er, fe fydd yn edrych i gael cefnogaeth gan y pleidiau asgell dde ar rai materion fel mewnfudo, ac o’r asgell chwith ar faterion fel lles cymdeithasol.

Roedd plaid y Prif Weinidog Lars Loekke Rasmussen, y Blaid Ryddfrydol, wedi gweld ychydig o gynnydd i gymharu â phedair blynedd yn ôl.

Ond fe gafodd Parti Pobol Denmarc, oedd fel arfer yn pleidleisio gyda’r Blaid Ryddfrydol, ganlyniad siomedig sy’n golygu na all y Prif Weinidog ennill mwyafrif yn y Senedd.