Mae miloedd o brotestwyr wedi cynnal gorymdaith heddychlon i Washington Square Park yn Efrog Newydd.
Mae’r protestwyr yn rhan o grŵp Occupy Wall Street sydd wedi bod yn cynnal protestiadau dros y 22 niwrnod diwethaf.
Ddydd Mercher, cafodd dwsinau eu harestio ar ôl i filoedd o brotestwyr orymdeithio i Wall Street. Ddydd Sadwrn diwethaf, cafodd 700 eu harestio wrth iddyn nhw groesi Pont Brooklyn.
Mae nhw’n gwrthdystio yn erbyn gweithgareddau Wall Street ac anghyfiawnder yn economi yr Unol Daleithiau.
.