Mae llys yn yr Iseldiroedd wedi anghyfreithloni giang yr ‘Hells Angels’, gan ei alw’n sefydliad treisgar sy’n fygythiad i’r drefn gyhoeddus.

Mae’r dyfarniad gan Lys Canolog yr Iseldiroedd yn Utrecht wedi gwahardd cangen genedlaethol y gang, yn ogystal â’r sefydliad rhyngwladol.

“Mae’r trais yn un strwythurol, ac mae’n dod o ddiwylliant y clwb beicio modur,” meddai datganiad gan y llys.

Does dim manylion ynglŷn a sut fydd y gwaharddiad yn cael ei weithredu ac, yn ôl y llys, mae’r cyfrifoldeb hwnnw yn nwylo erlynwyr.

Yr Hells Angels yw’r diweddaraf o’r gangiau beiciau modur yn yr Iseldiroedd i gael eu gwneud yn anghyfreithlon.