Y seiclwr Owain Doull o Gaerdydd – y Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur Olympaidd – yw llywydd Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Mercher, Mai 29).

Roedd yn aelod o dîm gwledydd Prydain a llwyddodd i ennill y fedal yng Ngemau Olympaidd Rio ym Mrasil yn 2016 ac yn dilyn fe ymunodd a thîm Sky Bradley Wiggins yn 2017.

Doedd y seiclwr ddim yn un am gystadlu yn yr eisteddfod ond roedd yr Urdd yn rhan fawr o’i blentyndod tra yn yr ysgol.

“Hoffwn ddweud diolch i’r Urdd am bopeth maen nhw wedi gwneud i bobol ifanc Cymru,” meddai.

“Tra yn yr ysgol roedd yr Urdd yn rhan allweddol o ddydd i ddydd – o chwaraeon, perfformio, neu gelf a chrefft.”

“Caru’r iaith Gymraeg”

Bu Owain Doull yn mynd ar dripiau i wersylloedd yr Urdd – i Langrannog gydag Ysgol y Wern ac yna i Glan-llyn gyda Glantaf.

“I fi yn bersonol oedd yr Urdd wedi chwarae’r rôl fwyaf i helpu fi garu’r iaith Gymraeg,” meddai.

“Yn anffodus nid wyf yn byw yng Nghymru fwyaf, ond ym Manceinion ond pan rwy’n cael y cyfle i siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau yng Nghaerdydd neu Califfornia – rydyn ni’n cymryd y cyfle.”

“Pawb methu canu, actio a dawnsio”

Mae Owain Doull yn falch iawn o weld darpariaeth chwaraeon Urdd yn tyfu wrth feddwl yn ôl ar y diffyg pwysais arno oedd pan oedd yn ifanc.

“Tydi pawb ddim yn gallu canu, actio, a dawnsio ond mae pawb yn dda mewn rhywbeth,” meddai.

“Felly mae’n dda gweld yr Urdd yn datblygu ei adran chwaraeon o fewn Cymru. Pob lwc i bawb sy’n cystadlu yn yr Eisteddfod ond yn benodol i Glantaf ac Ysgol y Wern!”

Dydi Owain Doull ddim yn gallu bod yn yr Eisteddfod eleni ond dyma flas ar beth sydd ganddo i’w
ddweud am yr Urdd: