Mae rhagor na 30 o bobol wedi marw ar ôl i grŵp arfog ymosod ar bentrefi yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica.
Yn dilyn mae Llywodraeth y wlad wedi rhoi wltimatwm i arweinydd y grŵp treisgar sy’n cael ei adnabod fel 3R, gan alw arno i drosglwyddo’r rhai sy’n gyfrifol.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn pentrefi yng ngogledd orllewin y wlad, ar y ffin gyda Chad.
Dywed llefarydd i’r Llywodraeth fod y grŵp wedi dial yn erbyn nifer o gymunedau yng ngweinidogaeth Ouham Pende ar ôl digwyddiad lle cafodd un dyn ei ladd.
Yn ôl Lucien Mbaigoto, gwleidydd o’r ardal, nad yw ymladdwyr ar lawr gwlad yn cadw at y cytundebau heddwch a lofnodwyd gan eu harweinwyr, gan gynnwys un ym mis Chwefror.
Mae grwpiau hawliau dynol wedi beio’r grŵp 3R am ladd a threisio sifiliaid ers 2015.