Mae tri Phrydeiniwr wedi marw mewn damwain awyren fechan yn Dubai.

Roedd yr awyren fechan wedi taro’r ddaear ger Maes Awyr Rhyngwladol Dubai, gan ladd pob un o’r pedwar o bobl oedd ar ei bwrdd, meddai’r awdurdodau.

Bu farw tri dinesydd o wledydd Prydain ac un person o Dde Affrica, yn ôl yr awdurdodau.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda’r awdurdodau yn yr Emiradau Arabaidd yn dilyn yr adroddiadau.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.