Mae diffyg cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain yn arwain at broblemau fel gorlenwi, trais ymysg gangiau a gofal iechyd gwael mewn carchardai yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.
Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi dod i’r casgliad bod y ffordd y mae carchardai yng Nghymru yn cael eu rheoli rhwng Bae Caerdydd a San Steffan yn “gymhleth”, a bod angen mwy o gydweithio rhwng y ddwy lywodraeth cyn y gall problemau gael eu datrys.
Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn pwyso ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno cyfres o newidiadau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau, yn ogystal â chynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd Carchar Berwyn yn Wrecsam cyn ymrwymo i greu carchar mawr newydd.
Maen nhw hefyd yn cynnig bod y Llywodraeth yn casglu data gan siaradwyr Cymraeg er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer Cymry Cymraeg sydd mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr.
Argymhellion
Ymhlith argymhellion y pwyllgor mae:
- Cydweithio â Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth gofal iechyd i droseddwyr;
- Mynd i’r afael â digartrefedd ymhlith troseddwyr wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau;
- Gosod sganwyr diogelwch er mwyn atal cyffuriau a ffonau symudol rhag cael eu cludo i garchardai;
- Ystyried cyflwyno unedau llai fel bod pobol ifanc yn agosach at adref;
- Sefydlu canolfannau preswyl i ferched yn y gogledd a’r de er mwyn i droseddwyr aros yng Nghymru;
- Gwella gwasanaethau ar gyfer pobol sy’n siarad Cymraeg mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr;
Angen gweithredu “ar fyrder”
“Mae angen edrych ar y materion sydd wedi codi yn ystod ymchwiliad fy Mhwyllgor ar fyrder cyn i’r Llywodraeth fwrw ymlaen ag unrhyw ddatblygiad newydd wrth ystyried sefydlu carchar yng Nghymru,” meddai cadeirydd y pwyllgor, David TC Davies.
“Yn gyntaf, mae angen eglurder a sicrhau bod unrhyw gamau i wella’r diffyg cydlynu rhwng cyfrifoldebau Llywodraethau Prydain a Chymru yn cael eu gweithredu’n effeithiol, ac yn ail mae angen ystyried anghenion troseddwyr Cymreig a’r ardal gyfagos cyn datblygu unrhyw gynllun ar gyfer carchar newydd yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Prydain
“Rydym yn cyfarfod yn gyson â Llywodraeth Cymru ac wedi cydweithio ar strategaethau sydd â’r nod o wella hyfforddiant mewn carchardai, gwasanaethau gofal ac iechyd ac adferiad troseddwyr,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
“Fe fyddwn ni’n ystyried yr adroddiad yn ofalus ac yn ymateb maes o law.”