Mae rhagor na 800,000 o bobol wedi cael eu symud ar hyd arfordir dwyreiniol India wrth i’r awdurdodau baratoi ar gyfer seiclon yn ardal Bae Bengal.

Mae Adran Feteoregol India yn rhagweld y bydd Seiclon Fani yn cyrraedd dydd Gwener (Mai 3) gyda gwyntoedd mor gryf â 124 milltir yr awr, ac mae’r tywydd yn debygol o ddechrau gwaethygu heno (nos Iau, Mai 2).

Mae’r adran yn rhybuddio hefyd y bydd glaw “hynod o drwm” dros rannau o ranbarthau Odish ac Andhra Pradesh.

Mae pryder y gallai Seiclon Fani fod y storm waethaf yn yr ardal ers 1999, pan laddodd seiclôn tua 10,000 o bobol a dinistrio rhannau mawr o Odisha.