Mae gwŷr arfog ar feiciau modur wedi lladd gwraig yn Pacistan, wrth danio at griw o ferched oedd yn gweithio fel rhan o dîm brechu rhag polio.
Mae gwraig arall wedi cael ei hanafu yn y digwyddiad yn nhref Chaman.
Mae heddlu lleol yn dweud i’r dynion ddianc yn syth wedi’r trydydd ymosodiad o’r math yr wythnos hon.
Mewn digwyddiadau tebyg ddydd Mawrth a dydd Mercher (Ebrill 23 a 24), fe gafodd dau blismon eu lladd.
Mae Chaman yn dref ar y ffin yn nhalaith Baluchistan.