Fe fydd prif weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern ac arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, yn cyfarfod ym Mharis y mis nesaf gyda’r bwriad o gael gwared â delweddau gan eithafwyr a brawychwyr ar-lein.

Dywed Jacinda Ardern y bydd hi ac Emmanuel Macron yn gofyn i arweinwyr gwledydd y byd a prif weithredwyr cwmnïau technoleg i gytuno i’r addewid a elwir yn y ‘Christchurch Call’, sydd wedi ei enwi ar ôl yr ymosodiad yn y ddinas y mis diwethaf.

Dywed Jacinda Ardern ei bod wedi bod yn siarad gyda chynrychiolwyr cwmnïau yn cynnwys Facebook, Twitter, Microsoft a Google ynghyd ag arweinwyr byd.

Mae hi’n gobeithio y gallan nhw i gyd ddod i gytundeb.

Roedd y dyn sy’n cael ei amau o ladd 50 o bobol mewn dau fosg yn Christchurch ar Fawrth 15, wedi ffrydio fideo byw ohono’i hun yn ymosod.