Fe fydd y gwaith o ail-godi Yemen wedi’r rhyfel cartref yno, yn cymryd dros 20 mlynedd, yn ôl adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r astudiaeth yn dweud, hyd yn oed petai’r ymladd yn dod i ben eleni, fe fydd wedi costio dros $88.8bn.

Os y bydd yr ymladd yn dal i rygnu tan 2030, fe fydd yn gorfodi 71% o bobol y wlad i fyw mewn tlodi; 84% heb ddigon o faeth i’w fwyta; a cholledion economaidd o $657bn.

Mae cynghrair o wledydd, dan arweiniad Sawdi Arabia, wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr Houthi, gyda chefnogaeth Iran, ers 2015.

Mae’r rhyfel wedi lladd degau o filoedd o bobol, ac wedi achosi newyn mawr yn y wlad.