Mae taflegryn gafodd ei ollwng o’r awyr gan yr Unol Daleithiau wedi lladd arweinydd ISIS yn Somalia.

Yn ôl Adran Reoli’r Unol Daleithiau yn Affrica, roedden nhw wedi gollwng y taflegryn ger Xiriiro – pentref yng ngogledd rhanbarth Puntland yn Somalia ar ddydd Sul (Ebrill 14) – gan ladd Abdulhakim Dhuqub, sef dirprwy bennaeth grŵp eithafwyr ISIS yn Somalia.

Ef oedd yn gyfrifol am ymosodiadau yn yr ardal, yn ôl datganiad byddin yr Unol Daleithiau.

Roedd y taflegryn wedi cael ei anelu at gerbyd oedd Abdulhakim Dhuqub ynddi a ni chafodd ddim dinesydd ei ladd na’i anafu meddai’r datganiad hefyd.

Mae gweinidog amddiffyn Puntland, Abdisamad Mohamed Galan, wedi cadarnhau’r llofruddiaeth yr arweinydd, a dywed fod y taflegryn wedi lladd aelodau eraill o’r grŵp hefyd.

Cafodd grŵp ISIS ei sefydlu yn Somalia ar ddiwedd 2015 pan adawodd ymladdwyr eithafol yn Putland al-Shabab, sydd â chysylltiadau ag al Qaida.