Mae dyn, 29, wedi ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar ar ôl cynnau tân yn fwriadol mewn siop yn ardal Castellnewydd Emlyn y llynedd.

Yn ystod oriau mân y bore ar Dachwedd 27, fe wnaeth Luke Cuber-Hives dorri i mewn i Siop Riverside Health yn Adpar, Ceredigion, cyn cynnau tân yn fwriadol yno.

Ar ôl cynnal ymholiadau yn y gymuned leol, fe ddaeth yr heddlu o hyd i Luke Cuber-Hives a’i gyhuddo o droseddau pellach hefyd yn ymwneud â lladrata a thwyll.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys, mae’r ddedfryd yn anfon “neges glir” i ddrwgweithredwyr ynglŷn â difrifoldeb cynnau tân yn fwriadol.