Steve Jobs
Mae un o sylfaenwyr a chyn brif-weithredwr cwmni Apple, Steve Jobs, wedi marw yn 56 oed, cyhoeddodd y cwmni technolegol bore ma.
Roedd y dyn busnes, oedd yn gyfrifol am yr iPhone a’r iPad, wedi bod yn brwydro yn erbyn canser y pancreas.
Roedd wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn brif weithredwr cwmni Apple ym mis Awst ar ôl dweud nad oedd ei iechyd yn ddigon da i barhau â’r gwaith.
Dywedodd Apple fod Steve Jobs, oedd yn byw yn Silicon Valley, California, wedi marw ddoe â’i deulu o’i gwmpas.
Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw wedi eu “tristau” gan y newyddion.
“Mae’r byd yn lle gwell o ganlyniad i gyfraniad Steve,” medden nhw.
“Roedd yn caru ei wraig, Laurene, a’u teulu fwyaf oll. Rydyn ni’n cydymdeimlo â nhw a phawb sydd wedi eu cyffwrdd gan ei ddawn hynod.”
Dywedodd ei deulu fod Steve Jobs wedi marw “yn heddychlon” a’u bod nhw’n diolch i’r rheini sydd wedi dymuno’n dda iddo a gweddïo drosto.
Mewn datganiad dywedodd yr Arlywydd Barack Obama fod Steve Jobs “ymysg y mwyaf o arloeswyr yr Unol Daleithiau”.
“Roedd yn ddigon dewr i feddwl yn wahanol, a chredu y gallai newid y byd, ac roedd ganddo ddigon o dalent i wneud hynny.”
Cychwynodd y tad i bedwar cwmni Apple Computer â’i gyfaill ysgol Steve Wozniak yn ei garej yn 1976.
Gadawodd y cwmni degawd yn ddiweddarach, cyn dychwelyd ynghanol y 90au a thrawsnewid Apple yn un o gwmnïoedd technoleg fwyaf y byd.