Mae tri o bobol wedi brifo mewn ffrwydrad mewn academi filwrol yn Rwsia.
Mae llefarydd wedi cadarnhau i ‘eitem’ chwythu i fyny y tu mewn i academi fawreddog Mozhaisky yn St Petersburg, lle mae swyddogion yn cael eu hyfforddi ar gyfer uned amddiffyn y wlad.
Mae tri o bobol wedi cael eu hanafu yn y digwyddiad, ond yr un o’r tri ag anafiadau sy’n rhoi eu bywydau mewn peryg.
Mae gwefan newyddion leol, Fontanka, yn adrodd mai dyfais wedi’i gwneud â gwerth 200g o ffrwydron TNT oedd yn gyfrifol am y difrod.