Fe gafodd trigolion Bethesda wledd i’r llygaid ddoe (dydd Llun, Ebrill 1) wrth weld buwch yn defnyddio’r wifren wib uwchben Chwarel y Penrhyn.

Roedd y cyfan wedi ei drefnu gan grŵp o ffermwyr, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am y diwydiant amaeth ymhlith pobol ifanc.

Mae ‘Cows on Tour’ wedi bod yn cynnal digwyddiadau undydd mewn ysgolion ers pum mlynedd, ond ym mis Mai eleni maen nhw’n bwriadu mynd gam ymhellach drwy gynnal wythnos o ddigwyddiadau ledled Cymru.

Mae’r trefnwyr hefyd yn gobeithio codi arian ar gyfer achos da yn ystod yr hyn maen nhw’n ei alw’n “daith anferthol”, gan gefnogi dwy elusen sy’n gweithredu yng nghefn gwlad Cymru, sef y Sefydliad DPJ a RABI.

“Hyrwyddo ein diwydiant”

Roedd ymweliad y fuwch ffug â’r wifren wib yn Bethesda yn rhan o’r ymgyrch i hyrwyddo’r daith, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 13 a 19 gyda chefnogaeth sir nawdd y Sioe Fawr eleni, Sir Benfro.

“Fe gawsom ni ddiwrnod arbennig yn Zip Word, yng nghwmni tîm anhygoel o bobol sy’n cynrychioli’r diwydiant amaeth, y rhwydwaith pwysig sy’n cefnogi ffermwyr yn ddyddiol, a’r staff yn Zip World a sicrhaodd fod ein her yn cael ei gwblhau a’n buwch yn ddiogel,” meddai Matthew Jones, cadeirydd ‘Cows on Tour’.

“Ein nod yw ailsefydlu’r cysylltiad rhwng y cymunedau gwledig a’r cymunedau trefol er mwyn hyrwyddo ein diwydiant a thanlinellu faint mor bwysig ydym ni.”

Bydd y fuwch yn rhan o her arall gan y trefnwyr ymhen rhai wythnosau, wrth iddi hi, ynghyd â tharw, dafad a mochyn plastig, gael eu cario i fyny’r Wyddfa ar Fai 4.