Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, yn dweud ei fod yn barod i ymosod ar Lain Gaza eto – dim ond “os daw hi i’r pen” rhwng y ddwy ochr.

Mae’n gwneud ei sylwadau wrth i’r Aifft geisio cynnal trafodaethau heddwch rhwng arweinwyr Israel a gwrthryfelwyr Hamas, yn dilyn dyddiau o ymladd.

“Os oes angen gweithredu eto, fe fyddwn yn mynd i mewn yn gryf ac yn hyderus, ond ar ôl i ni ddefnyddio pob opsiwn arall yn gyntaf,” meddai Benjamin Netanyahu.

Fe ymatebodd byddin Israel gyda chyrchoedd awyr yr wythnos hon, wedi i roced o Gaza ddinistrio tŷ ac anafu saith o bobol yng nghanol y wlad,