Mae bwrdd cylchgrawn i ferched yn y Fatican wedi ymddiswyddo oherwydd bod ymgyrch wedi bod yn eu erbyn i “ddwyn gwarth arnyn nhw” a’u “rhoi o dan reolaeth dynion”.
Roedd y cylchgrawn, sydd yn cael ei olygu gan bwrdd o ferched yn unig, wedi beirniadu’r gamdriniaeth rywiol o leianod gan glerigwyr.
Gwnaed y penderfyniad gan bwyllgor golygu Women Church World, sy’n cael ei cyhoeddi gyda papur newydd y Fatican – L’Osservatore Romano – mewn darn fydd yn mynd allan ar Ebrill 1 mewn llythyr agored i’r Pab Ffransis.
Yn y darn, mae’r sylfaenydd Lucetta Sacaraffia yn dweud: “Rydym yn rhoi’r gorau iddi oherwydd ein bod yn teimlo ein bod wedi’n hamgylchynu gan hinsawdd o ddiffyg ymddiriedaeth a dad-gyfreithloni cynyddol.”