Mae nifer y meirw yn Indonesia wedi cynyddu i 89, gyda degau yn dal i fod ar goll, yn dilyn llifogydd trwm yn nwyrain y wlad.

Yn ôl llefarydd ar ran asiantaeth argyfwng Indonesia, mae ardal Sentani wedi cael ei tharo’n wael ar ôl i dunelli o fwd, cerrig a choed lithro oddi ar ochr mynydd i lawr at afon sydd wedi gorlifo ei glannau.

Cafodd 89 o gyrff eu tynnu o’r mwd ddydd Mawrth (Mawrth 19), meddai’r llefarydd ymhellach, ac mae 159 o bobol wedi eu hanafu.

Mae hefyd wedi cadarnhau bod 74 o bobol sy’n dal i fod ar goll, er bod yr amodau i achubwyr, sy’n cynnwys yr heddlu a’r fyddin, yn anodd.