Mae cannoedd o brotestwyr y mudiad festiau melyn wedi ymddangos eto ar strydoedd Paris yn Ffrrainc,

Dyma’r eildro ar bymtheg penwythnos i’r protestwyr wneud safiad yn y brifddinas ac yn ninasoedd eraill y wlad mewn ymdrech i gynnal y pwysau ar y llywodraeth i  newid polisiau y maen nhw yn honni eu bod yn ffafrio’r cyfoethog.

Dechreuodd yr orymdaith ym Mharis ger yr Arc de Triomphe yn gynharach heddiw gan ddod i ben ger Gerddi Lwcsembwrg, ble mae’r Senedd wedi’i leoli.

Roedd y grŵp yn cael ei arwain gan ferched yn galw am hawliau cyfartal, ddiwrnod wedi Diwrnod Rhyngladol y Merched.

Mae’r niferoedd sy wedi bod yn protestio wedi lleihau dros yr wythnosau diwethaf.

Dengys polau piniwn fod cefnogaeth pobol Ffrainc yn gostwng oherwydd trais a difrod sy wedi digwydd yn ystod rhai protestiadau, gyda perchnogion busnesau yn gwneud colledion neu yn cau eu siopau i warchod eu heiddo.