Gall agwedd “gras a ffafr” y Toriaid tuag at ddatganoli beryglu dyfodol y DG yn ôl Prif Weinidog Cymru

Fe gondemniodd Mark Drakeford y Ceidwadwyr am eu “trahauster”, a rhybuddiodd y gallai arwain at ddatod y DG.

Wrth ddisgrifio’r Deyrnas Gyfunol fel “cymdeithas wirfoddol” rhwng ei bedair gwlad cyfansoddol, dywedodd Mr Drakeford: “Yn y pendraw yr unoliaethwyr bondigrybwyll sy’n peri’r bygythiad mwyaf i undeb y Deyrnas Gyfunol.

“Eu trahauster nhw a’u rhagdybiaethau wrth gymeryd yn ganiataol fod ganddyn nhw’r hawl i reoli’r gweddill ohonom sy’n peryglu datod y Deyrnas Gyfunol y mae y blaid hon wedi ei hymrwymo iddi’n wirioneddol.”

Wrth siarad yng nghynhadledd Plaid Lafur yr Alban yn Dundee, pwysleisiodd fod Llafur yn “blaid ymroddedig i ddatganoli.”

Dywedodd: “Tra fod Llafur yng Nghymru wedi ymrwymo i ddatganoli, rydym yr un pryd yn blaid sy’n credu’n gryf fod dyfodol Cymru wedi’i sicrhau orau yn sgil Teyrnas Gyfunol lwyddiannus.

Ychwanegodd: “Y cyfuniad yma o ddatganoli pwerus ar un llaw a’r ymrwymiad i’r Deyrnas Gyfunol ar y llall sy’n galluogi’r Blaid Lafur i roi cynnig mor arbennig.”

Er fod datganoli wedi bodoli ers 20 mlynedd, meddai, d’oes ond rhaid ichi grafu wyneb y Blaid Doriaidd ac fe welwch yn fuan yr “elyniaeth reddfol” tuag ag Gymru a’r Alban.