Mae o leiaf 18 o bobol wedi cael eu hanafu o ganlyniad i ffrwydrad grenâd mewn gorsaf fysus yn hanner India o Kashmir.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y grenâd ei daflu yn yr orsaf yn Jammu, cyn rholio o dan fws cyn ffrwydro.

Mae’r rhai gafodd eu hanafu wedi cael eu cludo i’r ysbyty. Mae pedwar mewn cyflwr difrifol.

Yn y gorffennol, mae India wedi beio gwrthryfelwyr sy’n cwffio yn erbyn rheolaeth India yn Kashmir am ymosodiadau grenâd tebyg.

Mae tensiynau yn parhau ar dir Kashmir, ble buodd saethu ddoe rhwng India a Pacistan.