Mae awdurdodau Pacistan yn parhau i chwilio am ddringwr mynydd o’r Alban sydd wedi mynd ar goll.
Roedd Tom Ballard yn dringo Nanga Parbat, nawfed mynydd ucha’r byd, pan gafodd ei ddal mewn tywydd garw.
Fe gollodd e gysylltiad â’i ffrind Daniele Nardi yr wythnos ddiwethaf.
Fe fu oedi yn y chwilio yn sgil yr anghydfod rhwng Pacistan ac India tros ranbarth Kashmir.
Mae’r dringwr Alex Txikon a’i dîm o Wlad y Basg yn cynorthwyo’r timau achub, ac mae disgwyl iddyn nhw hedfan dronau dros yr ardal.
Fe fu’n rhaid gohirio’r ymdrechion ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ond mae’r tywydd wedi gwella rywfaint erbyn hyn.
Mae Tom Ballard yn fab i’r ddiweddar Alison Hargreaves, y ferch gyntaf erioed i ddringo Everest heb gymorth. Bu farw ar fynydd K2 yn 1995, yn 33 oed.