Mae Hassan Rouhani, arlywydd Iran, wedi gwrthod derbyn ymddiswyddiad Mohammad Javad Zarif, y Gweinidog Tramor.
Fe geisiodd e ymddiswyddo’n hwyr nos Lun, a hynny’n annisgwyl, yn ôl adroddiadau.
Mae lle i gredu y gallai penderfyniad yr arlywydd ei gorddi, ac y bydd yn gwrthod mynd i’w waith yn sgil hynny.
Ond mae’r achos yn un di-gynsail yn Iran.
Dydy Mohammad Javad Zarif ddim wedi ymateb hyd yn hyn.
Mae’r ddau dan gryn bwysau ynghylch cytundeb arfau niwclear y wlad, sy’n prysur gael ei dynnu’n ddarnau. Roedd y ddau yn flaenllaw wrth lunio’r cytundeb.