Mae cefnogwyr arlywydd Nigeria  yn hawlio buddugoliaeth yn etholiad diweddara’r wlad a gynhaliwyd ddydd Sul (Chwefror 24).

Yn ôl llefarydd ar ran Muhammadu Buhari, mae’r gwleidydd yn paratoi i roi araith yn diolch i bawb a bleidleisiodd drosto.

Fe ddylai ei wrrhwynebydd, Atiku Abubakar, dderbyn y canlyniad yn raslon, meddai wedyn.

Ac os oes tystiolaeth i brofi unrhyw honiadau o dwyll yn erbyn y brif blaid yn ystod yr etholiad, fe ddylai honno gael ei chyflwyno yn agored.

Yn swyddogol, mae Muhammadu Buhari ar y blarn o fwy na 1.8 miliwn o bleidleisiau. Nigeria yw gwlad ddemocrataidd fwya’ poblog Affrica.