Mae awyrlu Pacistan wedi saethu dwy awyren o India i lawr yn rhanbarth Kashmir, yn dilyn adroddiadau eu bod wedi croesi’r ffin rhwng y ddwy wlad.
Daeth y digwyddiad oriau’n unig ar ôl i Bacistan ddweud bod milwyr Indiaidd wedi tanio ffrwydron gan ladd chwech o bobol gyffredin ac anafu nifer o bobol eraill. Mae lle i gredu bod nifer o blant yn eu plith.
Yn ôl lluoedd arfog Pacistan, maen nhw wedi cipio’r peilot.
Mae lle i gredu bod un awyren wedi dod i lawr ar ochr Pacistan yn Kashmir, a bod y llall wedi dod i lawr mewn ardal o’r Himalayas sydd o dan reolaeth India.
Dydy’r adroddiadau hynny o Bacistan ddim wedi cael eu cadarnhau gan India.
Yn ôl tystion, roedd milwyr yn saethu i’r awyr i geisio cadw trigolion lleol draw o’r ardaloedd lle daeth yr awyrennau i lawr.
Anghydfod tros Kashmir
Ardal ar y ffin rhwng Pacistan ac India yw Kashmir, ac mae rheolaeth ohoni wedi’i rhannu rhwng y ddwy wlad.
Ond mae’r ddwy wlad yn ceisio’i hawlio hi yn llwyr.
Daw’r digwyddiad diweddaraf ddiwrnod yn unig ar ôl i India ymosod ar ochr Pacistan y rhanbarth, gan dargedu safle milwrol yng ngogledd-orllewin y wlad.
Dywed trigolion ar ddwy ochr y ffin fod y ddwy ochr wedi bod yn ymosod ar ei gilydd drwy gydol y nos.
Fe fu’n rhaid i gannoedd o bentrefwyr ar y ddwy ochr ffoi o’u cartrefi.
Mae India yn cyhuddo Pacistan o ymosod heb gyfiawnhad ac o ddefnyddio pobol gyffredin fel tarian.
Mae disgwyl i lywodraeth Pacistan gyfarfod heddiw i drafod ymosodiadau honedig gan India, a’r cyhuddiad fod India yn bygwth heddwch y rhanbarth.