Mae miloedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio ar strydoedd Mosgo er cof am Boris Nemtsov, arweinydd gwrthblaid y wlad a gafodd ei saethu’n farw yn 2015.

Roedd ei lofruddiaeth yn ergyd i Rwsiaid oedd yn ceisio symud Vladimir Putin, arlywydd y wlad, o’i swydd ar y pryd.

“Roedd Nemtsov yn ffigwr gwleidyddol lliwgar iawn,” meddai’r ymgyrchydd Nataliya Gryaznyevich yn ystod y rali.

Dywed fod ei farwolaeth “yn gadael twll gwag mewn gwleidyddiaeth”.

Cafwyd Ramzan Kadyrov yn euog o’i lofruddio, ac fe gafodd ei garcharu am 20 mlynedd.

Cafodd pedwar o ddynion eraill eu dedfrydu i garchar am gyfnodau’n amrywio o 11 i 19 o flynyddoedd.