Mae naw person wedi cael eu dienyddio am eu rhan yn llofruddio prif erlynydd y wlad yn 2015.

Cafodd y naw, a oedd yn cael eu hamau o fod yn aelodau o’r Frawdoliaeth Fwslimaidd, eu canfod yn euog o ladd Hisham Barakat, y tro cyntaf i uwch-swyddog yn y wlad gael ei ladd gan eraill ers chwarter canrif.

Daeth ei farwolaeth ar ôl i’r fyddin ddisodli Arlywydd Mohammed Morsi, ffigwr blaenllaw yn y Frawdoliaeth Fwslimaidd, yn 2013.

Mae 15 o bobol wedi cael eu dienyddio yn yr Aifft mewn cysylltiad â’r achos ers dechrau’r flwyddyn.

Mae Amnesty International wedi galw ar yr Aifft i atal y dienyddiadau, gan honni bod yr awdurdodau yn defnyddio dulliau treisgar er mwyn cael gafael ar dystiolaeth.