Mae dwsinau o weithwyr ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd drwg mewn mwyngloddiau yn Zimbabwe.
Yn ôl darlledwr y wlad, ZBC, mae 38 o ohonyn nhw yn sownd o dan y ddaear – ond yn ôl papur newydd yr Herald yno, 23 yw’r ffigwr.
Mae adroddiadau bod y gweithwyr wedi mynd lawr i fwyngloddio ger tref Kadoma cyn i’r glaw chwalu wal argae, gan arwain at y llifogydd.
Peth cyffredin yw i ddynion, merched a phlant weithio yng nghaeau mwyngloddio Zimbabwe ac mae safonau diogelwch yn isel.
Ac mewn gwlad sydd â lefel uchel o ddiweithdra, mae mwyngloddio anghyfreithlon yn boblogaidd iawn.